LLYFRGELL SAIN ADRODD STRAEON AMLIEITHOG POBL ABERTAWE

Croeso! Welcome! (English version here)
Llyfrgell sain adrodd straeon amlieithog yw hon a grëwyd gan Hafan Books (sy’n gysylltiedig â Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe, SASS), mewn partneriaeth â Thîm Cydlyniant Cymunedol Dinas a Sir Abertawe.
Gallwch wrando ar bobl o Abertawe, o gymunedau ieithyddol gwahanol, yn adrodd straeon yn eu hieithoedd eu hunain: straeon i blant, chwedlau gwerin, traddodiadau’r byd a mwy.
Darperir cyfieithiad Saesneg, ar ffurf sain a/neu fel testun ysgrifenedig. Mae gan rai o’r straeon luniau ac animeiddio.
Hyd yma, mae gennym straeon yn yr ieithoedd canlynol: Eidaleg, Bengaleg, Sylheti, Ffarsi/Perseg, Amhareg, Cwrdeg Sorani, Sbaeneg (o El Salvador), Ffrangeg (un gyda chân yn Bacweri/Bantw!), Cantoneg a Mandarin… Mae tua 200 o ieithoedd yn cael eu siarad yn Abertawe… A dyma’r dechrau’n unig….
Ydych chi am gynnig stori i’r llyfrgell? Cwestiynau, sylwadau, awgrymiadau? E-bostiwch t.cheesman@swansea.ac.uk neu ffoniwch 07736408064
Dolen fer ar gyfer y dudalen hon: www.tinyurl.com/swanseatales
1. Y BACHGEN GWARTHEG A’R TEIGR (BENGALEG)
Un tro, roedd bachgen ifanc a oedd yn gofalu am wartheg ei bentref wrth ymyl y fforest. Roedd y bachgen gwartheg hwn yn dwlu ar chwarae castiau ar y pentrefwyr. Roedd bob amser yn ceisio codi ofn arnynt drwy weiddi ‘Teigr! Teigr! Help! Help!’ Ac felly, byddant yn rhedeg i’w helpu. Ond doedd dim teigr. ‘Ha ha! Wedi chwarae cast arnoch chi eto!’ Ond ar ôl iddo chwarae’r cast hwn sawl tro, dechreuodd y pentrefwyr flino ar gastiau’r bachgen. Felly un diwrnod, pan ddaeth teigr go iawn allan o’r fforest, a gweiddodd y bachgen am help, ni ddaeth neb i’w helpu. A chafodd ei fwyta gan y teigr! Felly moeswers y stori yw peidiwch â dweud celwydd!
Tyfodd Zinia Akhter i fyny yn Dhaka, sef prif ddinas Bangladesh, ac mae wedi bod yn byw yn Abertawe ers 2014. Mae ei merch, Alvina Biswas, yn 6 oed. Mae Zinia yn fyfyrwraig amser-llawn yng Ngholeg Gŵyr yn astudio Therapi Harddwch (lefel 3).
2. YR WYAU EURAIDD (AMHAREG)
Un tro, roedd dyn tlawd o’r cefn gwlad a oedd yn byw gyda’i wraig a’u mab ifanc. Arferai ei wraig gerdded pellter mawr i’r farchnad i siopa. Byddai’n dychwelyd â phopeth y byddai ei angen arnynt, a losin i’w mab. Roedd ganddynt fywyd hapus. Yna, yn sydyn iawn, bu farw hithau. Roedd yn anodd iawn i’r dyn ddweud wrth ei fab fod ei fam wedi marw. Byddai’r mab yn gofyn i’r tad: Ble mae mam? Byddai ef yn ateb: Mae mam wedi mynd i siopa. Ble mae mam? Mae mam wedi mynd i siopa. Yna, un diwrnod, gofynnodd y mab: Ble mae mam? A dywedodd y tad: Aeth hi i fyny i’r awyr, i’r nefoedd. Ond nid yw hi ar ei phen ei hun yno. Mae ganddi iâr, yn debyg i’r ŵydd sy’n dodwy ŵy euraidd bob dydd. Mae’r ŵydd yn byw i fyny yn yr awyr, yn y nefoedd. Ac mae gan fam yr iâr honno. Bydd mam bob amser yn anfon yr ŵy euraidd hwnnw atom. —- Ac felly dyma’r ffordd y byddai’r tad yn cysuro ei fab.
Tyfodd Million Woldemariam i fyny yn Ethiopia, lle bu’n gweithio fel Hyfforddwr Diogelwch Awyren, ac mae wedi bod yn byw yn Abertawe ers 2002. Graddiodd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda gradd Meistr mewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol.

3. AMSER A CHARIAD (FFARSI/PERSEG)
Un tro, roedd ynys lle’r oedd yr holl deimladau’n byw – Hapusrwydd, Tristwch, Oferedd, Deallusrwydd, Cyfoeth, a’r gweddill i gyd. Un diwrnod, clywsant fod yr ynys yn mynd i suddo i’r môr. Dechreuasant oll ffoi yn eu cychod. Dim ond Cariad a oedodd rhag gadael yr ynys tan y funud olaf. Ond nid oedd ganddi gwch … Roedd Cariad yn boddi. Gofynnodd i eraill ei chymryd hi ar eu cychod nhw … Fesul un gofynnodd iddynt … Ond ni fyddai ben yn ei chymryd hi … Nes o’r diwedd cafodd ei hachub …. gan …. Pwy fydd yn achub Cariad? Rhaid i chi wrando ar y stori!
Ganwyd Shahsavar Rahman yn Sardasht, Iran. Astudiodd Llenyddiaeth Bersaidd ar lefel israddedig a daeth i’r DU fel ffoadur gwleidyddol yn 2007. Bellach, mae’n ddinesydd Prydeinig ac mae’n gweithio fel cyfieithydd ar y pryd yn cyfieithu Ffarsi, ac mae’n siarad ieithoedd Cwrdaidd hefyd. Mae’n gwirfoddoli gyda Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe, ac ar dîm y prosiect Cov19Chronicles.
4. NASREDDIN A’I ASYN (FFARSI/PERSEG)
Un diwrnod, mae Nasreddin a’i fab yn mynd i’r dref gyda’u hasyn. Maent yn mynd heibio i grŵp o bobl sy’n dweud: “Edrychwch ar y ffyliaid yna. Mae’r ddau ohonynt yn cerdded dan yr haul poeth, a does neb ar ben yr asyn!” Felly, dyma Nasreddin yn rhoi’r bachgen ar yr asyn. Cyn hir, maent yn mynd heibio i grŵp arall o bobl, sy’n dweud: “Y bachgen mawr cryf yna, dim parch! Yn mynd ar ben asyn wrth i’w hen dad gerdded!” Felly mae’r bachgen yn disgyn ac mae’r tad yn mynd ar ben yr asyn. Maent yn mynd heibio i ragor o bobl, sy’n dweud: “Druan ar y bachgen bach yna! Mae’n rhaid iddo fe gerdded wrth i’w dad diog fynd ar ben yr asyn!” Felly maent yn penderfynu y dylai’r ddau ohonynt fynd ar ben yr asyn, i osgoi cael eu beirniadu. Mae’r bobl nesaf maent yn eu gweld yn dweud: “Edrychwch! Druan ar yr asyn yn cario cymaint o bwysau!” Ac felly disgyn a wnânt, ac mae Nasreddin yn cario’r asyn dros ei ysgwydd. Mae’r bobl nesaf maent yn eu gweld yn chwerthin yn uchel. “Edrychwch ar y dyn twp yna’n cario’r asyn!” Felly mae Nasreddin yn rhoi’r asyn i lawr ac maent yn cerdded wrth ochr yr asyn unwaith eto. Nawr, mae Nasreddin yn troi at ei fab ac yn dweud: “Wyt ti’n gweld pa mor anodd yw hi i addasu i farn pobl eraill? Y gwir amdani yw nad yw’n bosib plesio pawb. Ac felly dylech chi wneud yr hyn rydych chi’n ei wybod ei fod yn iawn, a phlesio Duw.” Ac mae dywediad Iranaidd yn dweud: “Gallwch chi gau drysau, ond ni allwch chi byth â chau cegau pobl.” Felly peidiwch â phoeni am yr hyn mae pobl yn ei ddweud. Mwynhewch yr hyn a fynnwch chi.
Ganwyd Mansoureh Mahmoodi yn Iran ac mae ganddi radd mewn Economeg. Mae hi wedi bod yn Abertawe ers tua 18 mis ac mae hi’n ymddiddori mewn paentio, adrodd straeon a chwaraeon.

5. Y WRACH A’R DILLAD BERWI (EIDALEG)
Fe gwympodd merch menyw yn sâl. Roedd yn ddirgelwch. Roedd y meddyg yn credu bod ei bywyd hi mewn perygl, ond ni allai ddod o hyd i ffordd o’i gwella. Yn anobeithiol, aeth y fam â’r ferch i ŵr hysbys. Meddai ef: “Mae rhywun am niweidio’r ferch. Rhaid i chi fynd adref, cau’r holl ffenestri a berwi dillad eich merch.” Aeth hithau adref, a dechrau berwi dillad ei merch mewn potyn mawr. Yn sydyn, clywodd rhywun yn cnocio ar y drws. Yn ofnus, gofynnodd pwy oedd yno. Dywedodd llais rhyfedd wrthi: “Os gwelwch yn dda, peidiwch â’m lladd!” Atebodd y fam: “Os ydych chi’n addo i adael llonydd i’m merch, byddaf yn rhoi’r gorau i ferwi’r dillad.” Cytunodd y wrach. Rhoddodd y fam orau i ferwi’r dillad. Ac o’r eiliad honno, gwellodd y ferch ac ni ymyrrodd y wrach byth eto yn eu bywydau.
Mae Chiara Ariotti yn Ddarlithydd sydd wedi ymddeol o Brifysgol Abertawe, lle’r oedd yn addysgu Eidaleg, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd am fwy nag 20 mlynedd, a lle’r oedd yn cydlynu’r holl gyrsiau iaith yr oedd yr Adran Addysg i Oedolion Parhaus (AABO) yn eu cynnig.
6. Y WRACH BRYDFERTH (EIDALEG)
Yr oedd fenyw brydferth yn byw yn y fforest. Roedd hi’n rhy brydferth i fod yn berson arferol. Roedd yn rhaid ei bod hi’n masca, sef gwrach. Roedd yn byw mewn caban bach, yn cadw anifeiliaid, yn darllen yn dda iawn, yn creu ei dillad ei hun ac yn cyfareddu dynion yn y pentref gerllaw. Roedd y pentrefwyr yn ddrwgdybus iawn. Ar nosau tywyll, pan fyddai lleuad lawn, byddant yn gweld y masca yn mynd drwy’r goedwig i dderwen fawr, hynafol i gwrdd â phobl ryfedd. Felly penderfynodd y pentrefwyr wneud rhywbeth am y wrach. Un noson, ymgasglodd y pentrefwyr o amgylch y tŷ a’i chipio, gan glymu ei breichiau a’i choesau, ei rhoi mewn sach a’i thaflu yn yr afon. Ychydig o ddiwrnodau’n ddiweddarach, gwelwyd y sach gwag yn arnofio ar wyneb y dŵr. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, cafodd unrhyw un a oedd yn yfed dŵr yr afon ei wenwyno a byddai unrhyw beth a ddaeth i gysylltiad â’r d ŵ r yn troi’n garreg yn syth.
Mae Chiara Ariotti yn Ddarlithydd sydd wedi ymddeol o Brifysgol Abertawe, lle’r oedd yn addysgu Eidaleg, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd am fwy nag 20 mlynedd, a lle’r oedd yn cydlynu’r holl gyrsiau iaith yr oedd yr Adran Addysg i Oedolion Parhaus (AABO) yn eu cynnig.
7. HWYL FAWR (FFRANGEG A BACWER/BANTW)
Mae menyw sy’n gwisgo ffrog goch yn sefyll ger rhaeadr, yn canu’r gân hon: “Rydych chi wedi gorffen eich gwaith / Yn dychwelyd gyda dwylo gwag / Wedi gorffen eich gwaith yma ar y ddaear / Rydych chi’n dychwelyd gyda dwylo gwag. / Rydych chi’n llefain / I bwy ydych chi’n llefain / P’un o’ch plant ydych chi’n llefain amdanynt? / Daliwch eich calon yn un!” Ond nid yw ysbrydion y dŵr yn deall ei hacen. Po fwyaf mae’n canu, po fwyaf mae’r dŵr yn llifo. Mae hi’n sefyll i fyny; mae hi’n dal sanau coch, un faneg ac oriawr sydd wedi torri.
Mae Eric Ngalle Charles yn astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Cyd-sefydlodd Hafan Books ac mae’n cynnig cyrsiau ysgrifennu yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae e wedi byd yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. Mae ei hunangofiant I, Eric Ngalle wedi’i gyhoeddi gan Parthian.
8. SANTONGE BIA (FFRANGEG)
Satonge-Bia, anghenfil dychrynllyd gydag un llygad, un goes ac un fraich, sy’n creu arswyd a thrallod yn y pentrefi, gan ysbeilio a dwyn, yn lladd ac yn dinistrio. Ond mae plentyn amddifad bach yn penderfynu gwared y tir rhag y bygythiad hwn. Mae’n cymryd cyngor o hen ddyn doeth sy’n awgrymu cast er mwyn dal yr anghenfil a rhoi diwedd ar ei deyrnasiad braw. Mae’r plentyn craff yn defnyddio cneuen a chrwban i ddal yr anghenfil. Yn ôl dihareb Affricanaidd: ‘Gall plentyn chwarae’r drwm, ac mae’r oedolion yn dawnsio’ – hynny yw, gall pethau bach gael effaith fawr. Felly ceisiwch ragori ar eich galluoedd bob tro!
Tyfodd Otis Bolamu i fyny yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac mae wedi byw yn Abertawe ers 2018 ar ôl ceisio lloches wleidyddol. Mae’n gwirfoddoli gyda sawl sefydliad yn rhwydwaith Dinas Noddfa Abertawe. Cafodd ei ryddhau o ganolfan gadw ar gyfer alltudiaeth a rhoddwyd yr hawl iddo aros yn dilyn ymgyrch ledled y DU a ddechreuodd yn ystod y Nadolig yn 2018, y gwnaeth 70,000 o bobl ei chefnogi. Diolch i aelodau Prosiect Datblygu’r Congo (Congolese Development Project) am helpu gyda’r recordiad hwn.
9. I’M MAM (FFRANGEG)
“Fenyw ddu, fenyw Affricanaidd, o Fam, meddyliaf amdanat ti … / O Dâman, O fam, a’m cludais ar dy gefn, a’m magu, / a wyliodd fy nghamau cyntaf, / a agorodd fy llygaid i harddwch y byd, meddyliaf amdanat ti …” (Testun llawn a chyfieithiadau yma ac yma.)
Mae Esther Nsanea yn gynllunydd steil sy’n gwirfoddoli gyda Phrosiect Datblygu’r Congo (Congolese Development Project).
10. STORI MBIRI MBIRI (FFRANGEG)
Roedd y Langa Langa Stars yn fand poblogaidd iawn yn y Congo yn ystod y 1980au a oedd yn chwarae cerddoriaeth soukous. (Youtube.) Ond un diwrnod, roedd un o arweinwyr y band yn dyheu am hyd yn oed fwy o lwyddiant, felly aeth i weld dyn hysbys (féticheur) o’r enw Mbiri Mbiri. Mynnodd Mbiri Mbiri dad y cerddor fel aberthiad. Dywedodd wrth y cerddor i gasglu tywod o dan draed ei dad pan oedd yn cerdded. Ond yn lle gwneud hynny, yn ddirgel dilynodd y cerddor Mbiri Mbiri, a chasglu’r tywod o dan ei draed ef. Yna, rhoddodd y tywod hwn i Mbiri Mbiri. Pan berfformiodd Mbiri Mbiri ei swyn-ganeuon, edrychodd i’w ddrych hud, a gwelodd ei wyneb ei hun! “Beth wyt ti wedi’i wneud?” gweiddodd. “Byddaf yn marw dros gerddoriaeth!” A chyfansoddodd y cerddor ddawns o’r enw Mbiri Mbiri, a oedd yn gân boblogaidd iawn i’r band ym 1983. Moeswers y stori: Peidiwch byth â meddwl eich bod chi’n fwy deallus na phobl eraill!
Mae Théodore Manzambi wedi byw yn Abertawe ers 2017. Mae’n Weithiwr Achos Cyngor a Chymorth yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru (Welsh Refugee Council) ac yn Gydlynydd Gwirfoddoli Prosiect Datblygu’r Congo (Congolese Development Project). Yn y gorffennol, gweithiodd i’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (Centre for African Entrepreneurship).
11. Y BUGAIL CELWYDDOG (FFARSI/PERSEG)
Mae’r bugail ifanc o hyd yn gweiddi “Mae’r blaidd yn dod! Mae’r blaidd yn dod!” am ddim rheswm. Mae’r bobl yn rhedeg i achub y bugail a’u defaid, ond mae’r bachgen yn chwerthin, ac maent yn sylweddoli yr oedd yn dweud celwydd. Yna, un diwrnod, mae blaidd yn ymosod arno. Mae’r bugail bach yn gweiddi am gymorth ond nid yw’r bobl yn ei gredu. Mae’n gweiddi ac yn gweiddi ond does neb yn dod i’w helpu. Caiff yr holl ddefaid eu rhwygo’n ddarnau. Mae’r bachgen a oedd yn dweud celwydd ar ei ben ei hun.
Mae Afsaneh Firoozya yn hanu o Iran, lle bu’n gweithio gyda phlant am flynyddoedd lawer. Mae hi wedi byw yn Abertawe ers 18 mlynedd. Mae ganddi NVQ mewn Gofal Plant. Mae wedi gweithio fel gweithiwr chwarae i SASS ers 2004.
12. Y DYN CRINTACHLYD (FFRANGEG)
Un tro, roedd dyn cyfoethog iawn, ac efe oedd y dyn cyfoethocaf yn ei bentref. Ond ar ben hynny, efe oedd y dyn mwyaf crintachlyd. Fe’i gelwid yn M’bibizo, sy’n golygu “Dai draenog yn ei boced”. Roedd yn M’bibizo yn arbennig o grintachlyd. Heb wraig na staff, byddai’n gwneud yr holl waith tŷ ei hun. Roedd yn ymfalchïo mewn gwario dim byd. Un diwrnod, cwympodd M’bibizo i ffynnon. Gweiddodd am help a rhedodd ei gymydog agosaf i’w helpu ac estyn ei law iddo, gan weiddi: “M’bibizo, rho dy law imi fel y gallaf dy helpu allan o’r ffynnon.” Ond roedd yn gas gan M’bibizo roi unrhyw beth! Oedodd i roi ei law. Roedd yr amser hir hwnnw i ymateb yn farwol. Byddai mwy na thebyg wedi goroesi petai ei gymydog ond wedi dweud wrtho “cymera fy llaw i!” yn lle. Roedd dynion doeth y pentref yn cofio mai barusrwydd a wnaeth ladd M’bibizo cyfoethog.
Mae Richard Nomba Tshimanga yn wirfoddolwr gyda Phrosiect Datblygu’r Congo a Chanolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd ( Congolese Development Project, Centre for African Entrepreneurship), ac mae’n cynorthwyo gyda’u prosiectau cymorth bwyd priodol yn ystod y pandemig.
13. Y CEILIOG A’R LLWYNOG (CWRDEG SORANI)
Dyma Avin Rashidi yn adrodd chwedl werin Gwrdaidd am beryglon pobl ddieithr.
Un tro, roedd fferm hyfryd gyda llawer o anifeiliaid, gan gynnwys twrcïod a gŵydd, cath a chi, cywion ieir a Cheiliog. Roedd y Ceiliog yn hynod ddeallus. Roedd wrth ei fodd yn clywed straeon gan oedolion, a fyddai’n dysgu gwersi bywyd defnyddiol iddo. Un diwrnod, gwnaeth gamgymeriad mawr. Roedd twll yn y ffens a aeth drwyddo i ddianc i’r fforest. Yn nwfn yng nghanol y fforest, roedd mor hapus y dechreuodd canu’n braf. Clywodd Llwynog efe a rhedeg i’w ddal a’i fwyta. Ond neidiodd y Ceiliog i goeden. “Wncl Llwynog,” meddai’r Ceiliog, “wyt ti am fy mwyta?” “Nac ydw, siŵr,” meddai’r Llwynog, “Dim ond eisiau bod yn ffrind i ti ydw i. Rwyt ti mor hardd ac annwyl. Pam na ddei di i lawr? Nad wyt ti wedi clywed bod Brenin y Fforest, y Llew, wedi gorchymyn na chaiff unrhyw anifail fwyta anifail arall o heddiw ymlaen, nac ymladd anifail arall, nac anafu anifail arall. Rhaid i ni i gyd fyw mewn heddwch. Felly gad i ni fod yn ffrindiau.” Ond nid oedd y Ceiliog yn ei gredu. Cafodd syniad. Syllodd i’r pellter. “Wncl Llwynog,” meddai’r Ceiliog, “ym mhell i’r pellter, gallaf weld anifeiliaid mawr yn rhedeg tuag atom.” “Sut olwg sydd arnynt?” gofynnodd y Llwynog. “Mae ganddynt goesau hir iawn,” meddai’r Ceiliog, “a chlustiau hir iawn, a chynffonau hir iawn.” Sylweddolodd y Llwynog fod yr anifeiliaid hyn yn gŵn helwyr (‘Pshdar’). Roedd ofn mawr arno. Trodd i redeg i ffwrdd. “Pam wyt ti’n rhedeg i ffwrdd?” gofynnodd y Ceiliog. “Wnest ti ddim dweud bod y Llew wedi gorchymyn o heddiw ymlaen, na allai’r un anifail anafu anifail arall?” “Mae ofn gen i,” meddai’r Llwynog, “oherwydd efallai na chafodd yr anifeiliaid hynny mo’r neges.” Rhedodd y Llwynog i ffwrdd ac roedd y Ceiliog yn falch iawn am ddefnyddio’r hyn yr oedd wedi’i ddysgu o straeon eraill. Felly moeswers y stori yw: Peidiwch â bod yn ddwl. Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau pobl ddieithr!
Mae gan Avin Rashidi radd Meistr yn y Gyfraith o Iran. Daeth i’r DU ddwy flynedd yn ôl a bu’n fyw yn Abertawe tan yn ddiweddar.
14. YR ESGIDIAU COCH (EIDALEG)
“Mae’r stori hon yn adrodd hanes diwrnod braf pan aeth fy mam a minnau i’r farchnad dref yn Urbino i brynu pâr newydd o esgidiau. Roedd mor gyffrous cerdded o stondin i stondin, ac roeddwn i wrth fy modd yn dangos fy esgidiau coch sgleiniog newydd sbon i’m nhad o’r diwedd! Am atgofion gwych!”
Mae Giovanna Donzelli yn addysgu Eidaleg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Tyfodd i fyny yn yr Eidal ac mae wedi byw yn Abertawe ers 1998.
15. ZIO LUPO (WNCL BLAIDD) (EIDALEG)
Mae merch fach dlawd ond gwancus yn gofyn i Wncl Blaidd (Zio Lupo) os yw hi’n gallu benthyg pan ffrio i wneud crempog. Mae e’n cytuno, ond ar yr amod y bydd hithau’n ei ddychwelyd ato yn llawn crempog, ynghyd â thorth o fara a gwydryn o win. Mae’r ferch yn cytuno. Ond ar ei ffordd yn ôl i Wncl Blaidd, cafodd ei themtio gan yr arogl melys a deniadol. Fesul un, dyma hi’n bwyta’r holl grempog. Mae Wncl Blaid yn dweud wrthi y bydd yn ymweld â hi liw nos ac yn ei bwyta. Mae’r ferch yn rhedeg at ei mam ac yn gofyn am help. Mae’r fam yn cloi’r holl ddrysau a’r ffenestri yn y tŷ, ond mae’n anghofio…. y simnai. Mae Wncl Blaidd yn canfod ei ffordd i mewn ac… yn ei llowcio i gyd! A dyna sy’n digwydd i’r holl ferched gwancus!
Mae Giovanna Donzelli yn addysgu Eidaleg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Tyfodd i fyny yn yr Eidal ac mae wedi byw yn Abertawe ers 1998.
16. Y PYSGOTWR HAPUS (SORANI CWRDEG)
Roedd y pysgotwr hapus yn byw ar lan y môr. Byddai’n pysgota, yn gweddïo ac yn mwynhau ei fywyd yn syllu allan i’r môr. Un diwrnod, daeth Dyn Busnes Pwysig a gweld y Pysgotwr yn eistedd yno. “Pam wyt ti’n eistedd yno yn gwneud dim byd?” gofynnodd y Dyn Busnes yn grac. “Dwi i wedi dal digon o bysgod am heddi’,” dywedodd y Pysgotwr. “Pam wyt ti’n gwastraffu dy amser yn gwneud dim byd? Cer i ddal mwy o bysgod!” gweiddodd y Dyn Busnes. “Beth gallaf ei wneud gyda mwy o bysgod?” gofynnodd y Pysgotwr. “Dal mwy o bysgod, gwerthu’r pysgod, gwneud arian, prynu cwch, dal hyd yn oed mwy o bysgod, gwneud mwy o arian!” meddai’r Dyn Busnes. “Ac ar ôl hynny, pan fydd gen i gwch a byddaf yn gwneud mwy o arian, beth galla i ei wneud gyda hynny?” gofynnodd y Pysgotwr. “Prynu tri chwch arall, cyflogi pobl, gwneud hyd yn oed mwy o arian,” meddai’r Dyn Busnes. “Ac ar ôl hynny, pan fyddaf yn gwneud hyd yn oed mwy o arian, beth galla i ei wneud gyda hynny?” gofynnodd y Pysgotwr. “Prynu cychod mwy, pysgota’n ddyfnach yn y môr, bod yn ddyn busnes cyfoethog,” meddai’r Dyn Busnes. “Ac ar ôl hynny, beth gallaf ei wneud?”, gofynnodd y Pysgotwr. “Gelli di fod fel fi, yn gyfoethog ac yn hapus,” meddai’r Dyn Busnes. “Ac ar ôl hynny, beth gallaf ei wneud?”, gofynnodd y Pysgotwr. “Yna, gelli di fwynhau bywyd, ymlacio, byw mewn llonydd,”meddai’r Dyn Busnes. Syllodd y Pysgotwr Hapus ar y Dyn Busnes Pwysig yn syndod i gyd. “Dyna’n union yr hyn dw i’n ei wneud nawr,” meddai’r Pysgotwr Hapus.
Mae gan Aisha Mohamadi, o Gwrdistan (Iran) radd Meistr mewn Rheoli Economaidd ac mae wedi bod yn y DU ers pum mlynedd. Mae’n fam i ddau o blant.
17. Y FRÂN GYMWYNASGAR (SYLHETI)
Dyma Shajneen Abedean (Shaz) yn adrodd stori a glywodd yn blentyn gan ei mam-gu, yn iaith Sylheti (sy’n perthyn yn agos i Fengaleg). Mae presenoldeb pobl o ddinas a rhanbarth Sylhet, ym Mangladesh modern, yn y DU wedi’i gofnodi ers y 17eg ganrif fel morwyr. Mudodd llawer i Brydain yn y 1960au a’r 1970au. Mae’r rhan fwyaf o fwytai ‘Indiaidd’ a llawer o fusnesau eraill wedi’u cynnal gan siaradwyr Sylheti.
Un diwrnod, roedd Paun yn crwydro’r fforest ac yn dymuno gwneud ffrindiau newydd. Cwrddodd hi â Brân a ofynnodd i’r Paun fod yn ffrind iddi. “Dim diolch! Dwyt ti ddim mor brydferth â mi!”, meddai’r Paun yn anghwrtais. Aeth yn ei blaen a chwrdd â Llwynog. Meddyliodd y Paun: “Mae’r Llwynog hwn mor olygus, dylai fod yn ffrind i mi.” Daliodd y Llwynog â’r Paun a dweud: “Dw i’n mynd i dy fwyta di!” Gweiddodd y Paun. Clywodd y frân y Paun yn gweiddi. Galwodd ei ffrindiau i gael help, ac ymosodon nhw ar y Llwynog a rhyddhau’r Paun. Wedi hynny, daeth y Paun a’r Frân i fod yn ffrindiau da iawn. Gwers y stori hon yw bod pawb yn werthfawr ac yn bwysig yn y byd hwn. Ni ddylem ni feirniadu neb ar sail eu golwg. Dylem ni barchu pawb a bod yn ffrindiau gydag unrhyw un sy’n berson da.
Ganwyd a magwyd Shajneen Abedean (Shaz) yn Abertawe; daeth ei rhieni i’r DU o Sylhet. Mae Shaz yn gweithio i Gyngor Abertawe fel swyddog prosiect yn Townhill. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn yn cefnogi’r gymuned yn ystod y pandemig. Mae hi wrth ei bodd yn ymweld â Bangladesh ac yn dysgu am ei diwylliant a’i thraddodiadau.
Isod, ceir cyfres o luniau ar gyfer “Y Frân Gymwynasgar”, a grëwyd gan Lino Guzmán, sy’n dod o El Salvador yn wreiddiol, ac sy’n addurnwr ac yn bensaer sydd wedi bod yn byw yn Abertawe ers 3 blynedd.
18. Y CATHOD BACH DA (FFARSI/PERSEG)
Un tro, ni fodolai neb, dim ond Duw. Yna, roedd y Fam Gath a’r Tad Cath a’u cathod bach prydferth. Un diwrnod, aeth y Fam a’r Tad allan i nôl bwyd. Medden nhw wrth y cathod bach: “Rhaid i chi addo na fyddwch chi’n agos y drws i bobl ddieithr.” Addawodd y cathod bach. Ar eu pen eu hunain yn y tŷ, treulion nhw oriau yn chwarae. Yn sydyn, clywon nhw rywun yn cnocio wrth y drws. Rhedon nhw i agor y drws. Ond yna, cofion nhw’r addewid a wnaed ganddynt. Cropion nhw i fyny’r grisiau a syllu allan o’r ffenest. A gwelon nhw’r BLAIDD MAWR CAS. Roedd ef am fwyta’r cathod bach. Criodd y cathod bach llawn ofn, “Meow Meow Meow!” Yna, dychwelodd y Fam a’r Tad. Criodd y cathod bach “Meow Meow Meow!” yn hapus. Rhedodd y Blaidd Mawr Cas i ffwrdd. Roedd y Fam a’r Tad mor hapus. Cofleidion nhw eu cathod bach a’u cusanu a dweud: “Gan eich bod chi wedi bod mor dda, byddwn ni nawr yn dathlu ac yn bwyta’r bwyd blasus daethon ni nôl â fe”. Felly, plantos bach, yr hyn rydym ni wedi’i ddysgu o’r stori hon yw hyn: Dylem ni bob amser wrando ar ein mamau a’n tadau. A dyna ddiwedd ein stori.
Mae Mehri Arefi, sy’n hanu o Iran, wedi byw yn Abertawe ers 43 o flynyddoedd. Mae hi bob amser wedi bod yn weithredol yn y gymuned Bersaidd, yn trefnu digwyddiadau diwylliannol. Mae hi wedi gweithio gyda phlant ei holl fywyd. Mae ganddi ddau o blant a chwe o wyrion ac wyresau yn Abertawe sy’n ei chadw hi’n brysur.
19. Y LLEW A’R LLYGODEN (CWRDEG SORANI)
Roedd y Llew yn cysgu, pan redodd Llygoden dros ei wyneb. Deffrodd y Llew, yn grac, a dal y Llygoden. Erfyniodd y Llygoden arno am ei bywyd. “Mae gen i deulu o lygod bach sy’n blant i mi. Sut byddant yn byw hebof i?” Ysgyrnygodd y Llew arni. “Os byddi di’n fy rhyddhau i,” meddai’r Llygoden, “un diwrnod byddaf yn talu dy garedigrwydd yn ôl.” Chwarddodd y Llew a’i rhyddhau. Ddim yn hir wedi hynny, roedd y Llew yn sownd mewn magl helwyr. Roedd yn gaeth i raffau cryfion. Clywodd y Llygoden ruo’r Llew a rhedeg i’w helpu. Cnôdd drwy’r rhaffau a rhyddhau’r Llew. Dywedodd wrtho: “Doeddet ti ddim yn credu y gallwn i dy helpu un diwrnod, am fy mod i’n fach.” Mae’r stori hon yn dwyn yr ymadrodd Cwrdaidd canlynol i gof: “Gallai rhywbeth sy’n ymddangos yn ddiddefnydd, yn amhwysig ac yn fach o hyd, rhyw ddiwrnod droi mas i fod y peth mwyaf defnyddiol i gyd.”
Ganwyd Shahsavar Rahman yn Sardasht, Iran. Astudiodd Llenyddiaeth Bersaidd ar lefel israddedig a daeth i’r DU fel ffoadur gwleidyddol yn 2007. Bellach, mae’n ddinesydd Prydeinig ac mae’n gweithio fel cyfieithydd ar y pryd yn cyfieithu Ffarsi, ac mae’n siarad ieithoedd Cwrdaidd hefyd. Mae’n gwirfoddoli gyda Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe (SASS), ac ar dîm y prosiect Cov19Chronicles.
20. FFERM A SEREN (SBAENEG)
(Cyfieithiad gan TC/SS) Un diwrnod – Duw yn gyntaf! Rhaid iti fy ngharu ychydig! – Byddaf yn creu fferm lle gall y ddau ohonom fyw. Beth arall gellir gofyn amdano? Gyda’th gariad di, fy fferm, coeden a chi, gweld yr awyr a’r bryn, a’r blanhigfa goffi yn ei blodau…. A chydag arogl eirin ysgaw, bydd aderyn gwatwar yn canu, a bydd pwll yn adlewyrchu’r adar bach a’r gwinwydd. Yr hyn mae pobl dlawd ei eisiau, yr hyn mae pobl dlawd yn ei garu, yr hyn rydym ni wrth ein boddau ag ef cymaint, oherwydd dyna’r hyd nad oes gennym… Gyda hwnna’n unig, fy nghariad i, gyda’m cerddi, gyda’th gusan di, byddai’r gweddill yn fwy na digon i ni. Oherwydd nad oes dim byd gwell na mynydd, fferm, seren. Pan fydd gennych chi “Rwy’n dy garu di” ac aroglau llwybrau yn eu blodau.
Mae Wilber Lemus Ramus yn bensaer ac yn ddylunydd o El Salvador sy’n byw yn Abertawe. Creodd y llun isod hefyd, i gyd-fynd â’r gerdd.

21. AROS WRTH YMYL BÔN I RAGOR O YSGYFARNOGOD DDOD (CANTONEG)
Un tro, roedd ffermwr a oedd yn mynd i’r meysydd bob dydd rhwng codi’r haul a’i fachlud. Ond prin y gallai fwydo ei hun. Roedd yn rhy ddiog ac yn rhy lwfr i wneud yn dda. Roedd yn gobeithio y byddai lwc dda yn ei gyrraedd un dydd. Un diwrnod, cafwyd gwyrth. Roedd allan yn y caeau pan redodd ysgyfarnog allan o’r goedwig. Rhedodd i mewn i fôn goeden yn ei gae, a marw. Cafodd y ffermwr de o ysgyfarnog flasus y noson honno. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, rhoddodd orau i ffermio. Eisteddodd yno yn aros i fwy o ysgyfarnogod redeg i mewn i fôn ei goeden wyrthiol. Ond pa mor debygol yw hynny?! Defnyddir yr idiom “aros wrth ymyl bôn i ragor o ysgyfarnogod ddod” ( 守株待兔 sáu jyù doih tou) ar gyfer pobl sydd am rywbeth am ddim, neu sy’n glynu wrth eu llwyddiant blaenorol ac sydd â diffyg hyblygrwydd.
Tyfodd Geoffrey Lee i fyny yn Hong Kong ac mae’n siarad Cantoneg fel mamiaith. Mae’n frwdfrydig iawn dros gadw ei famiaith, ac mae wrth ei fodd yn adrodd chwedlau gwerin a darllen cerddi o Frenhinlin y Tang.
22. YUGONG YN SYMUD Y MYNYDDOEDD (MANDARIN)
Un tro, roedd hen ddyn a oedd yn 90 oed o’r enw Yugong. Roedd pobl yn ei alw’n ‘wirion’. Roedd dau fynydd enfawr o flaen ei dŷ yn rhwystr wrth y drws. Dywedodd wrth ei deulu, “Gadewch inni weithio gyda’n gilydd i symud y mynyddoedd ymaith!” Cytunodd ei feibion a’i wyrion i gyd, ond roedd ei wraig yn meddwl ei bod hi’n amhosib. “Sut gallwn ni symud y mynyddoedd? Ble byddwn ni’n rhoi’r holl gerrig a phridd?” Atebodd y gweddill, “Does dim byd na allwn ni ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd! Gallwn ni roi’r cerrig a’r pridd yn y môr. Dyna ddiwedd y broblem!” Y diwrnod nesaf, dechreuon nhw ar y gwaith. Daeth hen ddyn doeth lleol, Zhisou, a chwerthin arnynt. Gwnaeth hwyl am ben Yugong: “Rwyt ti mor hen, prin iawn y medri di gerdded. Sut gallwch chi symud y mynyddoedd?” Atebodd Yugong: “Mae hyd yn oed y plentyn sy’n fy helpu yn fwy deallus na thi! Fe fydda i’n marw, ond bydd y gwaith yn mynd i’m meibion. Pan fyddan nhw’n marw, bydd yn mynd i’m hwyrion. Os byddwn ni’n parhau i weithio, pam na fyddai modd inni symud y mynyddoedd ymaith un diwrnod?” Gadawodd geiriau doeth Yugong o’r Zhisou heb eiriau. O’r diwedd, cafodd dyfalbarhad Yugong argraff ar yr Ymerawdwr Nefol. Anfonwyd dau dduw o’r Nefoedd i symud y mynyddoedd ymaith. Nawr, nid oedd unrhyw beth yn rhwystr wrth ddrws tŷ Yugong. Moeswers y stori hon (愚公移山 Yúgōngyíshān: “Yugong yn Symud y Mynyddoedd”) yw hyn: Nid yw unrhyw beth yn amhosib pan fydd pobl yn dod at ei gilydd ac yn gweithio ar y cyd. Neu: Cyn belled na ydym yn rhoi’r gorau iddi, mae’n siŵr y byddwn ni’n llwyddo rhyw ddiwrnod.
Daeth Geoffrey Lee, o Hong Kong Prydeinig, i Abertawe ar gyfer ei astudiaethau ôl-raddedig yn 2016. Cwblhaodd ei MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mandarin/Saesneg a bellach, mae wedi ymgartrefu yn Abertawe, ac mae’n gweithio i Gymdeithas Tsieineaidd Cymru. Mae’n ieithydd brwdfrydig ac yn gyfieithydd ar y pryd DPSI.
23. Y BYD (SBAENEG)
Un tro, llwyddodd dyn o Neguá, Colombia, fynd yn uchel iawn yn yr awyr. Pan ddaeth yn ôl, dywedodd y gallai weld bywyd dynol yn ei gyfanrwydd o’r man uchel hwnnw. A dywedodd ei fod fel môr o danau bychain. Mae pob un ohonom yn disgleirio gyda’n golau personol ni ymhlith yr eraill i gyd. Mae pob tân yn unigryw. Tanau mawrion, tanau bychain, o bob lliw a llun. Mae gan rai pobl danau tawel, ac nid ydynt yn sylwi ar y gwynt. Mae gan eraill danau gwyllt, sy’n llenwi’r awyr gyda’u gwreichion. Mae rhai tanau gwirion nad ydynt hyd yn oed yn disgleirio nac yn llosgi. Mae eraill yn llosgi bywyd mor frwd, mae’n anodd iawn ichi edrych arnynt heb smicio llygaid, ac maent yn gwneud i chi ddisgleirio hefyd.
Ganwyd Geraldine Lublin yn Buenos Aires (yr Ariannin) ac mae wedi byw yng Nghymru ers 2002. Mae’r siarad Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg yn rhugl. Mae’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n awdur llyfr am y Wladfa.